Blwyddyn Newydd Dda – Happy New Year

(Scroll down for English)

Mae’n ddydd Nos Galan 2025, ac mae’n fore oer yn gynnar yn y Barri – ddim mor oer ag mae  Cumbria y radio yn dweud wrtha i, ond eto. Dwi’n tapio ar fy mysellfwrdd gyda fy mysedd yn chwarae mig allan o lewys fy siwmper. Fe allen i roi’r gwres ‘mla’n, ond mae pawb arall yn y tŷ yn dal yn y gwely a byddai sŵn y boeler yn clyncian wrth ddechrau yn debygol o’u deffro – ac wedi’r cyfan, i beth mae siwmperi mawr yn dda os nad am foreau fel hyn.

Gallaf weld llawer o’r dref ges i fy magu ynddi o fy ffenestr wrth i mi deipio. Mae gwawr ola’r haul am y flwyddyn yn un llachar a newydd. Mae’n gosod y naws ar gyfer diwrnod olaf 2025 a’r hyn a ddaw nesaf yn 2026. Mae’n flwyddyn newydd arall (eto) – ac ryn ni wedi eu cael o’r blaen, a bydd gennym y cerrig milltir hyn yn ein bywydau eto, ond mae’r un hon, i Gymru, a gwleidyddiaeth Cymru, yn un hynod o arwyddocaol.

Ymhen ychydig dros bedwar mis bydd Cymru’n wahanol. Bydd gennym Lywodraeth newydd sy’n rhedeg ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae gwleidyddiaeth oes datganoli wedi cael ei ddominyddu gan Lafur yma yng Nghymru. Er gwaetha’r gafael hwn ar rym, am lawer o’r amser hwnnw, mae’r cyfrifoldeb am gyflawni wedi bod yn esgus a basiwyd rhwng San Steffan a Chaerdydd. Yr unig bobl sy’n colli yw trigolion Cymru, sydd wedi gorfod dioddef GIG ar ddibyn parhaus, gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir yn wael a Llywodraeth nad yw’n fodlon, neu sy’n methu â sefyll i fyny dros fuddiannau Cymru yn effeithiol.

Mae chwe mlynedd ar hugain o fethiant wedi bod yn ddigon i’r etholwyr hir-ddioddefgar yng Nghymru. Mae cangen Gymreig Llafur Starmer ar fin cael eu gorchmynion i adael; gorchmynion i’w cyhoeddi’n swyddogol mewn blychau pleidleisio ledled Cymru ar Fai 7fed. Nid yw’r Blaid Lafur hyd yn oed yn y ras mwyach am bwy fydd yn arwain Cymru o fis Mai. Mae pawb yn gwybod hynny, gan gynnwys y rhan fwyaf o bobl yn y Blaid Lafur. Mae’r parti wedi dod i ben.

A’r Torïaid. Mae adain dde eu plaid wedi hercian yn atgas tuag at ReformUK dros y flwyddyn ddiwethaf tra bod y gweddill yn brwydro i fod yn berthnasol. Hyd yn oed mewn hen gadarnleoedd fel y Bont-faen, maen nhw’n dod yn drydydd tu ôl i Blaid Cymru a ReformUK. Mae rhai, fel Andrew RT Davies sy’n fythol ddig, yn ceisio gor-Farageiddio Farage gyda’i gasineb yn ei anobaith, gan adael yr ychydig Dorïaid un-genedl sy’n weddill yn meddwl tybed i ble aeth eu plaid. Bydd y Torïaid yn ffodus i ddychwelyd digon ar gyfer tîm pump bob ochr ym mis Mai – ni fyddant yn bwysig yn y cyfrif ar ôl yr etholiad – mae 14 mlynedd a mwy o fethiant yn San Steffan wedi sicrhau hynny’n iawn.

O’r fan hyn mae pethau’n achosi ychydig mwy o bryder. Mae ein huwch-etholaeth yn darged ar gyfer ReformUK – wedi’i amlygu’n fewnol (ganddyn nhw) fel “Aur +”. Maen nhw eisiau tair o’r chwe sedd yma – y math o gyfrif a fyddai’n eu rhoi yn agos at fod blaid fwyaf yng Nghymru. Plaid o ddicter ac ofn, wedi’i ariannu gan biliwnyddion sy’n esgus eu bod nhw’n poeni am gymunedau yng Nghymru. Gwelwn eu camwybodaeth a’u celwyddau a safwn yn gryf yn eu herbyn. Mae angen i Gymru, fel endid gwleidyddol, weithio’n llawer gwell – mae gennym gynlluniau credadwy i wneud hynny, ac ni fyddwn, yn wahanol i Farage a’i ffrindiau, yn pwno’r gwannaf mewn cymdeithas i wneud pethau’n well.

Yr unig blaid fydd yn eu hatal rhag cael tair sedd yn ein ardal ni yw Plaid Cymru. Awgrymodd y pôl diwethaf (Canolfan Llywodraethiant Cymru/YouGov – Rhagfyr 17eg 2025) y byddai Sarah Rees o’r Blaid yn cael y chweched sedd honno yma ond y Blaid yn y seithfed safle fyddai ReformUK. Mae rhai wedi rhybuddio am hunanfodlonrwydd ym Mhlaid Cymru – gadewch imi eich sicrhau ein bod yn canolbwyntio’n llwyr ar wneud yn siŵr ein bod yn trechu ReformUK yma ym Mhen y Bont Bro Morgannwg ac yn chwarae ein rhan gadarnhaol wrth adeiladu gwell yfory.

Gallai – a dylai etholiad Mai (yn fy marn i) gael ei benderfynu gan bleidleiswyr dan 35 oed. Does dim amheuaeth, pe bai eu cyhyrau etholiadol yn cael eu hymarfer, byddai hi ar ben ar Farage a’i gang. Yn yr arolwg barn diweddaraf, mae chwe gwaith cymaint o bobl ifanc 18–24 oed yn cefnogi Plaid Cymru o gymharu â ReformUK a thair gwaith cymaint o bobl ifanc 25–34 oed (trueni na wnaethon nhw gynnal arolwg o bobl ifanc 16–17 oed sy’n gallu pleidleisio yn yr etholiad hwn hefyd!). Fe wnaeth Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol berfformio hyd yn oed yn waeth na ReformUK ac o ran y Torïaid roedd y pleidlais yn gywilyddus. Does dim amser gwell na mis Mai i wneud yn siŵr bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed a bod eu pleidleisiau’n cael eu cyfrif. Dyma’r etholiad pwysig. Dyma’r etholiad i bobl ifanc yng Nghymru bleidleisio i Blaid Cymru.

Mae gen i neges ddiffuant a chlir i’r rhai sy’n ystyried pleidleisio i’r Blaid Werdd neu’r Democratiaid Rhyddfrydol yn yr uwch-etholaeth hon. Yn syml, ni fydd eich pleidlais yn cyfrif – yr unig bobl i elwa o’ch pleidlais fydd ReformUK. Nid yw hyn yn wir ym mhob man ledled Cymru. Mae yna ambell le a fydd yn dychwelyd aelodau’r Senedd o’r ddwy blaid hyn, rwy’n siŵr, ond nid ym Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr. Ni fydd y naill blaid na’r llall yn cyrraedd y trothwy sy’n ofynnol o dan y system gyfrannol sy’n cael ei defnyddio. Gallwn ddadlau rhinweddau neu fel arall y system hon (mae Plaid Cymru wedi cefnogi system Pleidlais Sengl (STV) decach yn gyson), ac mae’n debyg y byddwn yn cytuno, ond ni fydd hynny’n newid y system; rydym y tu hwnt i semanteg er byn hyn. A nawr ar faes y gad etholiadol – gwnewch i’ch pleidlais gyfrif; pleidleisiwch dros Blaid Cymru.

Yn aml, mae pleidiau yn gofyn i gefnogwyr y blaid gymharol wannach fenthyg eu pleidleisiau i atal canlyniad llawer gwaeth. Pleidlais dactegol. O ystyried y peryglon a achosir gan naill ai Llywodraeth Cymru ReformUK neu eu bod yn ennill y nifer fwyaf o seddi yn y Senedd ond yn methu ffurfio llywodraeth (oherwydd nad oes neb arall yn fodlon gweithio gyda nhw), mae’r canlyniadau gwaethaf yn glir. Ond yn wahanol i’r rhan fwyaf o bleidleisiau tactegol, gall cefnogwyr posibl y ddwy blaid sy’n pleidleisio Plaid wneud hynny’n gadarnhaol. Er bod gan Blaid Cymru wahaniaethau polisi gyda’r Gwyrddion a’r Democratiaid Rhyddion, mae gennym hefyd feysydd sylweddol yr ydym yn cytuno arnynt. Byddwn yn sefyll ar faniffesto credadwy a chyflawnadwy a fydd yn gwneud Cymru’n decach ac yn fwy ffyniannus. Gallwch bleidleisio Plaid Cymru gyda hyder a llwyddo hefyd i atal ReformUK. Rydym wedi gweld hyn yng Nghaerffili a gallwn weld yr un peth yma.

Gyda’n gilydd gallwn sicrhau bod 2026 a thu hwnt yn flwyddyn o obaith yn hytrach na chasineb, lle mae gwasanaethau cyhoeddus yr ydym oll yn dibynnu arnynt yn cael eu hariannu’n addas, lle mae’r sylfaen ar gyfer economi decach a chryfach yn cael ei osod a lle mae gennym Lywodraeth Cymru a fydd bob amser yn sefyll dros Gymru a’n buddiannau o’r diwrnod cyntaf. Nid busnes fel arfer yw’r opsiwn rydyn ni’n ei ddewis a dyna pam y gofynnwn i CHI ymuno â ni a chwarae eich rhan yn yr etholiad mwyaf hanfodol hwn. Gallwch ymuno â ni, cyfrannu i gefnogi ein gweithgareddau yn lleol neu yn syml ddweud wrthym y byddwn yn cael eich pleidlais ar Fai 7fed. Bydd angen clymblaid o gefnogaeth flaengar i ennill mewn ychydig dros bedwar mis ac yn Sarah a minnau byddwch chi’n ethol dau aelod na fydd yn eich gadael i lawr.

Mae Mark Hooper yn Gynghorydd ar Gyngor Bro Morgannwg i Blaid Cymru. Mae’n arwain rhestr y Blaid yn etholaeth Pen y Bont Bro Morgannwg sy’n cwmpasu etholaethau seneddol Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr. Ail ar restr ymgeisyddion Plaid Cymru mae Sarah Rees, Pennaeth Oxfam Cymru. Mae manylion llawn holl ymgeiswyr Plaid Cymru ledled y wlad i’w gweld yma.

It is New Year’s Eve 2025, and it is a cold early morning in Barry – not as cold as Cumbria the radio tells me, but still. I am tapping on my keyboard with my fingers peeking out from my jumper sleeves. I could put the heating on, but everyone else in the house is still in bed and the clunk of the boilerkicking in would likely wake them up and after all what are big jumpers for if not mornings like these.

I can see lots of the town I grew up in from my window as I type. The final sunrise of the year – bright, crisp, new, sets the tone for the last day of 2025 and what comes next in 2026. It is, yes, (yet) another new year – we have had them before, and we will have these timestamps of our lives again, but this one is, for Wales, and Welsh politics, significant.

In just over four months time Wales will be different. We will have a new Government running our public services. The politics of the devolution era has been dominated by Labour here in Wales. Despite this hold on power, for much of that time, responsibility for delivery has been the excuse-ridden buck passed performatively between Westminster and Cardiff.The only people losing out being the residents of Wales, who have had to endure an NHS forever on the brink, poorly-delivered public services and a Government unwilling or unable to effectively stand up for Welsh interests.

Twenty-six years of failure has been enough for the long-suffering electorate in Wales. The Welsh branch of Starmer’sLabour has their marching orders; orders to be officially issued in ballot boxes across Wales on May 7th. The Labour Party is not in the running for who leads Wales from May. Everyone knows it, including most in the Labour Party. The party is well and truly over.

And the Tories. The right of their Party has scrambled unedifyingly to ReformUK over the past year whilst the remaining rump are struggling for relevance. Even in former strongholds like Cowbridge, they come third behind Plaid and ReformUK. Some, like the ever-angry Andrew RT Davies,desperately try to out-nasty Farage, leaving those few remaining one-nation types wondering where their Party has gone. The Tories will be lucky to return enough for a five-a-side team come May – they will not matter in the post election reckoning – 14 years and more of failure at Westminster have rightfully ensured that.

Now it gets a little more concerning. Our super constituency is a target for ReformUK – highlighted internally (by them) as “Gold+”. They want three of the six seats here – the kind of tally that would put them close to the biggest party in Wales.A Party of anger and fear, funded by billionaires pretending to care about communities in Wales. We see their misinformation and lies and we stand strongly against them. Wales, as a political entity needs to work much better – we have credible plans to make that so, and we won’t, unlike Farage and his pals, punch down on the weakest in society to make better happen.

The only party who will stop them getting three seats in our patch is Plaid Cymru. The last poll (Wales Governance Centre/YouGov – Dec 17th 2025) suggested Plaid’s Sarah Reeswould get that sixth seat here but the Party in seventh place would be ReformUK. Some have warned of complacency setting in at Plaid Cymru – let me assure you we are focused entirely on making sure we defeat ReformUK here in Pen Y Bont Bro Morgannwg and play our positive part in building a better tomorrow.

May’s election could (and should, in my view) be decided by voters under 35. No ifs or buts, if their electoral muscles were to be exercised, it would be game over for Farage and hisnasty gang. In the latest polling, six times as many 18–24-year-olds support Plaid verses ReformUK and three times as many 25–34-year-olds (shame they didn’t poll 16–17-year-olds who can also vote in this election!). Labour and the Lib Dems performed even worse than ReformUK and as for the Tories the polling was frankly embarrassing. There is no better time than May to make sure young people’s voices are heard and their votes are counted. This is the election that matters. This is the election for young people in Wales to vote Plaid Cymru.

Penultimately, I have a sincere, but to the point, message for those considering voting Green or Lib Dem in this super-constituency. Simply put, your vote will not count positively – the only winners will be ReformUK. This is not the case everywhere across Wales. There are a few places which willreturn Senedd members from both these parties, I’m sure, but it will not be in the Vale and Bridgend. Neither party will get to the threshold required under the proportional system being used. We could argue the merits or otherwise of this system (Plaid has consistently supported Single Transferable Vote (STV) system), and we’d probably agree, but that will not change the system; we are beyond semantics and on the electoral battlefield – make your vote count; vote for Plaid Cymru.

Oftentimes, parties ask supporters of the relative weaker party to lend their votes to stop a much worse outcome. A tactical vote. Given the dangers posed by either a ReformUK Welsh Government or them winning the most seats in the Senedd but unable to form a government (because nobody else is willing to work with them), the worst outcomes are clear. But unlike most tactical votes, potential supporters of both parties who do vote Plaid can do so positively. Whilst Plaid Cymru doeshave policy differences with the Greens and Lib Dems, we also have significant areas upon which we agree. We will stand on a credible and deliverable manifesto that will make Wales fairer and more prosperous. You can vote Plaid Cymru with confidence AND still stop ReformUK in their tracks. We have seen this in Caerphilly and we can see the same here.

Together we can ensure 2026 and beyond is hopeful not hateful, where public services that we all rely on get properly funded, where the groundworks for a fairer, stronger economy are laid and where we have a Welsh Government that will always stand up for Wales and our interests from day one. Business as usual is not the option we are choosing and that iswhy we are asking YOU to join with us and play your part in this most crucial of elections. You could join us, donate to support our activities locally or simply tell us we will be getting your vote on May 7th. It will take a coalition of progressive support to win in just over four months and in Sarah and I you will be electing two members who will not let you down.

 

Mark Hooper is a Vale of Glamorgan Councillor for Plaid Cymru. He leads the Party’s list in the super constituency of Pen Y Bont Bro Morgannwg which covers the Vale of Glamorgan and Bridgend parliamentary constituencies.Sarah Rees, Head of Oxfam Cymru is Plaid’s second-placed candidate. Full details of all Plaid Cymru’s candidates across Wales can be found here.

Leave a comment